
18 & 19 EBRILL 2011, GALERI, CAERNARFON
Cyfarwyddwr : ELINOR BENNETT
Cynhelir yr Wyl Delynau flynyddol yn ystod Gwyliau’r Pasg eleni, ac estynnir gwahoddiad cynnes i delynorion o bob oed i gymryd rhan yn y gweithgareddau.
Bydd tîm o diwtoriaid amlwg, yn cynnwys Eira Lyn Jones (RNCM Manceinion), Elinor Bennett, Gwenan Gibbard, Angharad Wyn Jones, Helen Davies-Mikkelborg a Gill Green yn rhoi hyfforddiant mewn grwpiau ac yn unigol. Gall aelodau’r cwrs archebu tocyn am ddim i’r ddau gyngerdd gyda’r nos.
Yr artist gwadd fydd ALAN STIVELL, y canwr-delynor eiconig o Lydaw. Ef oedd y dyn, yn fwy na neb, a greodd y diddordeb ryngwladol enfawr yn y delyn geltaidd, ac yn arbennig mewn cerddoriaeth a dawns draddodiadol Llydaw yn y 1970au. Byddwn hefyd yn dathlu tri chanmlwyddiant geni un o arwyr gwerin Cymru, gan y credir i Dafydd Owen, (Dafydd y Garreg Wen) gael ei eni ym 1711. Dewch i ymuno â ni i ddathlu a dysgu!
Nodwch ar y bonyn ateb os allwch ddod â thelyn os gwelwch yn dda.
Ni ddarperir cinio, ond bydd Caffi Doc ar agor yn Galeri neu dewch â phecyn
bwyd efo chi.
Ffi gofrestru (ni ellir ei ad-dalu): £55 (yn cynnwys hyfforddiant a chyngherddau).
Cysylltwch â ni, neu cliciwch yma, am ffurflen gais, i'w dychwelyd erbyn y 15ed Mawrth
2011
• CYNGHERDDAU • DOSBARTHIADAU • CYSTADLEUTHAU •
![]() |
||
| Canolfan Gerdd William Mathias, Rhif Cwmni 3339969, Rhif Elusen Gofrestredig 1084271 | ||

